Data Cysylltiedig Mynegai Prisiau Tai y DU

Beth sydd wedi ei gynnwys yn Set Ddata’r Mynegai Prisiau Tai?

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cofnodi newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl.

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data gwerthiannau a gesglir ar drafodion tai preswyl, boed am arian parod neu gyda morgais. Mae eiddo wedi cael ei gynnwys:

  • yng Nghymru a Lloegr er Ionawr 1995,
  • yn yr Alban er Ionawr 2004 ac
  • yng Ngogledd Iwerddon er Ionawr 2005.

Mae data ar gael ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal ag ar lefel sir, awdurdod lleol a bwrdeistref Llundain.

Mae set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnwys gwybodaeth am dros 441 o ardaloedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Sylwer nad ydym yn cyhoeddi gwybodaeth Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Ynysoedd Scilly oherwydd ei nifer isel o werthiannau misol.

Ar gyfer pob ardal, rydym yn cyhoeddi ffigur Mynegai Prisiau Tai y DU. Cafodd hwn ei osod ar sylfaen o 100 yn Ionawr 2015, ac mae’n adlewyrchu’r newid yng ngwerth eiddo preswyl ers hynny. Mae gennym ffigurau hefyd ar gyfer pris cyfartalog yr holl eiddo mewn ardal, ar gyfer pob un o’r pedwar math o eiddo, nifer y gwerthiannau, a’r newid canrannol ers y mis blaenorol a’r flwyddyn flaenorol. Sylwer nad yw data nifer y gwerthiannau ar gael ar gyfer y ddau fis mwyaf diweddar. I gael rhagor o wybodaeth am Fynegai Prisiau Tai y DU, gan gynnwys pam nad yw rhai mathau o ddata ar gael ar gyfer y misoedd diwethaf, darllenwch am Fynegai Prisiau Tai y DU neu defnyddiwch y cysylltau uniongyrchol isod:

Ym Mehefin 2016, mae set ddata data cysylltiedig Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnwys oddeutu pedair miliwn tripled ar gyfer 441 o ranbarthau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r stôr driphlyg yn cael ei diweddaru bob mis gyda data o’r mis cyfredol a diweddariad o ddata’r ddau fis blaenorol.

Mae’r fersiwn data cysylltiedig o set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gynhyrchu o’r ffeiliau cyhoeddedig ac yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i ddisgrifio pob un o’r rhanbarthau yr adroddir arnynt; mae’r wybodaeth hon yn cynnwys cysylltau â setiau data cysylltiedig a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Sylwer bod cysylltau â ffynonellau eraill o ddata cysylltiedig, agored wedi eu darparu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol) a’r Drwydded Data Agored (data’r Arolwg Ordnans). Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig.

Sut caiff Set Ddata’r Mynegai Prisiau Tai ei chyhoeddi?

Mae set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU ar gael ar sawl ffurf gan Gofrestrfa Tir EM:

Mae set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU hefyd ar gael yn llawn fel set ddata gysylltiedig 5* sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.

Trosolwg o Ddata Cysylltiedig

Bob mis, caiff data Mynegai Prisiau Tai y DU ei ddiweddaru ar gyfer pob rhan o Brydain Fawr; ceir prisiad misol ar gyfer data Gogledd Iwerddon sy’n cael ei ddiweddaru bob chwarter. Mae data Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei newid i ffurf data cysylltiedig ac mae hyn yn cymryd lle’r graff a enwyd yn flaenorol yn y stôr driphlyg; caiff graffiau eu henwi UKHPI-bbbb-mm. Mae’r broses hon yn rhedeg ochr yn ochr â chyhoeddiad arferol Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae dyddiadau cyhoeddi ar gael ar yr amserlen Cyhoeddi.

Geirfâu

Mae cyhoeddi Set Ddata’r Mynegai Prisiau Tai fel data cysylltiedig yn golygu bod angen creu geirfâu RDFS neu OWL ailddefnyddiadwy, un eirfa Cofrestrfa Tir EM a dwy eirfa’r Arolwg Ordnans. Yn ogystal, caiff y data ei encryptio fel ciwb data RDF.

Ciwb Data
Argymhelliad gan W3C ar gyfer cynrychioli setiau o ddata ystadegol aml-ddimensiwn mewn RDF fel hypergiwb.
Mynegai Prisiau Tai Cofrestrfa Tir EM
Defnyddir geirfa Mynegai Prisiau Tai Cofrestrfa Tir EM i ddisgrifio’r Set Ddata Mynegai Prisiau Tai a gynhyrchir bob mis. Mae’r eirfa yn cynnwys termau a ddefnyddir gan Gofrestrfa Tir EM i ddisgrifio pethau a ddefnyddir o fewn set ddata’r Mynegai Prisiau Tai.
Cysylltiadau Gofodol yr Arolwg Ordnans
Defnyddir yr eirfa Arolwg Ordnans hon i ddisgrifio cysylltiadau gofodol sylfaenol.
OS Admingeo
Defnyddir yr eirfa Arolwg Ordnans hon i ddisgrifio daearyddiaeth ardal weinyddol ac ardal bleidleisio Prydain Fawr.

Data Mynegai Prisiau Tai y DU

Caiff data Mynegai Prisiau Tai y DU ei storio fel graff a enwir mewn ciwb data gyda dau ddimensiwn ac amrywiaeth o fesurau. Mae’r ffeil Diffiniad Strwythur Data yn diffinio’r strwythur hwn, a gellir ei defnyddio gan ddefnyddwyr data a rhaglenni i ddeall sut y caiff y data ei strwythuro.

Teclyn adrodd Mynegai Prisiau Tai y DU

Y teclyn adrodd yw’r ffordd hawsaf i ymholi set data Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae’n cynnig dull hawdd o greu ymholiadau trwy ddefnyddio ffurflen a gall canlyniadau gael eu lawrlwytho ar ffurfiau amrywiol. Gellir defnyddio’r lluniwr adroddiadau hefyd i gynhyrchu ymholiadau SPARQL y gellir eu diwygio a’u hail-redeg fel y bo angen.

Sylwer wrth ddewis yr opsiwn CSV ar gyfer data wedi ei lawrlwytho, dim ond yr eitemau data a ddangosir yn y canlyniad ar y sgrin gaiff eu cynnwys yn y CSV. Ar gyfer lawrlwythiadau Turtle, caiff yr holl eitemau data eu cynnwys yn ogystal â’r canlyniad o’r ymholiad SPARQL os caiff ei ail-redeg.

SPARQL

Ochr yn ochr â’r lluniwr adroddiadau, rydym wedi creu tudalen ymholiad SPARQL y gallwch ei defnyddio i roi cynnig ar rai ymholiadau SPARQL enghreifftiol neu i greu ymholiad eich hunain.

Rydym wedi gwneud pwynt terfyn SPARQL ar gael hefyd. Gallwch ddefnyddio’r cyfeiriad URL canlynol yn eich sgriptiau, cymwysiadau ac offer ymholi SPARQL eich hunain:

http://landregistry.data.gov.uk/landregistry/query

Trwy’r Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API)

Mae modd ymholi set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU yn uniongyrchol trwy’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau. Mae hwn yn dileu i raddau helaeth yr angen i wybod sut i ddefnyddio SPARQL ar yr amod eich bod yn gwybod strwythur y data. Gan ddefnyddio’r trafodiad enghreifftiol uchod, rydym yn gwybod bod data ar gael ar gyfer Gogledd Ddwyrain Lloegr. Gyda’r wybodaeth honno, gallwn nodi’r URL mewn porwr gwe

/data/ukhpi/region/north-east

Sylwer bydd yr ymholiad hwn yn dychwelyd yr holl ddata ar gyfer y rhanbarth hwnnw o’r mis presennol yn ôl i Ionawr 1995. Oherwydd nad yw Cofrestrfa Tir EM yn cyhoeddi Nifer y Gwerthiannau gyda’r un amlder â data arall, ni fydd unrhyw ffigur Nifer y Gwerthiannau ar gyfer y ddau fis a ddangosir. Caiff cyfrifiad o’r canlyniadau a gynhyrchir ar gyfer yr ymholiad ei ddangos ar y sgrin yn ddiofyn.

Ceir opsiynau i gynhyrchu’r data a ddangosir i’w lawrlwytho ar ffurf arall, er enghraifft CSV, ond sylwer bydd y canlyniadau wedi eu cyfyngu i’r un nifer o ganlyniadau a ddangosir ar y sgrin.

Yn yr un modd, gall ardaloedd eraill gael eu hymholi. Yn yr enghraifft ganlynol, dangosir y ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan:

/data/ukhpi/region/england-and-wales

Gellir estyn yr ymholiad i roi misoedd penodol:

/data/ukhpi/region/england-and-wales/month/2014-01

Mae hefyd modd dewis amrediadau a threfnu’r data a ddychwelwyd. Mae’r enghraifft ganlynol yn dychwelyd ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr lle mae’r newid misol rhwng 1% a 10%, wedi ei ddidoli yn ôl y cyfnod adrodd:

/data/ukhpi/region/england-and-wales?max-percentageChange=10&min-percentageChange=1&_page=0&_sort=refMonth

Mae modd newid y canlyniadau a ddangosir trwy ddefnyddio’r botwm addasu eich chwiliad ar frig y dudalen ac mae’r hidlwyr ar y dudalen yn ei gwneud yn hawdd ichi drefnu neu hidlo’r canlyniadau.

Problem neu awgrym? Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth hwn.