Datganiad hygyrchedd ar gyfer ceisiadau data agored: archwiliwr Data Pris a Dalwyd, adeiladwr adroddiadau safonol a Mynegai Prisiau Tai y DU
Cofrestrfa Tir EF sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 200% heb i’r testun lithro oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn credu bod y rhan fwyaf o’r wefan hon yn cydymffurfio â gofynion safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Ni ddylai’r archwiliwr Data Pris a Dalwyd, yr adeiladwr adroddiadau safonol, Mynegai Prisiau Tai y DU a thudalennau API perthnasol achosi unrhyw rwystrau i ddefnyddwyr sydd ag anableddau. Os ydych yn cael problemau yn cyrchu’r adrannau hyn, rhowch wybod inni.
Rydym yn gwybod nad yw’r ffurflen SPARQL Qonsole arbenigol yn hollol hygyrch. Yn arbennig, nodwn y problemau canlynol:
-
1.3.5: Nodi Pwrpas Mewnbwn (Lefel AA)
Mae angen addasu’r priodoledd cwblhau awtomatig i sicrhau profiad cyson i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin a mewnbwn llais. -
1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) (Lefel AA)
Nid oes gan liwiau cefndir a blaendir ddigon o gymhareb gyferbyniad. -
1.4.10: Ail-lifo (Lefel AA)
Mae angen sgrolio yn y ddau ddimensiwn (fertigol a llorweddol) ar gyfer rhywfaint o’r cynnwys, yn enwedig ar sgriniau llai. Gall hyn arwain at golli gwybodaeth neu swyddogaeth, nad yw’n bodloni’r canllaw hygyrchedd ar gyfer ail-lifo cynnwys. -
1.4.11 Cyferbyniad Di-destun (Lefel AA)
Nid oes gan y botwm perfformio ymholiad gymhareb gyferbyniad ddigonol rhwng cefndir y botwm a’r testun. -
1.4.12: Bylchu Testun (Lefel AA)
Mae rhai penawdau H2 yn rhy fach yn ddiofyn, a allai hefyd effeithio ar y gymhareb gyferbyniad, gan arwain at problemau darllenadwyedd i rai defnyddwyr y mae angen bylchu testun wedi ei addasu arnynt. -
2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd (Lefel A)
Ni all defnyddwyr fynd heibio’r prif faes testun gan ddefnyddio’r allwedd tab yn unig. -
2.4.2: Teitlau Tudalen (Lefel A)
Mae angen teitl mwy disgrifiadol i egluro pwrpas tudalen ffurflen SPARQL. -
4.1.2: Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
Mae gan y rhan fwyaf o elfennau ffurf labeli cysylltiedig. Rydym yn ymwybodol nad oes gan y panel golygu cod label cysylltiedig.
Rhyngwyneb technegol sy’n cefnogi datblygiad ymholiad gweledol yw’r ffurflen SPARQL Qonsole. Rydym yn deall o ymchwil blaenorol bod defnyddio’r ffurflen SPARQL Qonsole wedi ei gyfyngu i nifer fach o ddefnyddwyr arbenigol. Er mwyn gwella hygyrchedd y gydran hon, mae angen inni ddiweddaru’r rhyngwyneb defnyddiwr, a’n nod fydd gwneud hyn yn y dyfodol.
Yr hyn i’w wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, anfonwch ebost at data.services@mail.landregistry.gov.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 5 niwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid:
- trwy’r ffôn – 0300 006 0422
- trwy’r post – HM Land Registry Citizen Centre, PO Box 7806, Bilston WV1 9QR
- ar-lein
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018, a ddiwygiwyd yn 2022 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar y clyw neu sydd â nam ar y lleferydd.
Mae dolenni sain gan ein swyddfeydd, neu os ydych yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu i ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain fod yn bresennol.
Darllen am sut i gysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018, a ddiwygiwyd yn 2022. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio ar y cyfan â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, gyda'r eithriadau cyfyngedig a ddisgrifir uchod.
Sut y profwyd y wefan hon
Profwyd y wefan hon yng Ngorffennaf 2025. Cynhaliwyd profion gan werthwr allanol, gan ddefnyddio cyfuniad o offer profi awtomataidd, sgriptiau prawf a weithredwyd â llaw ac adolygiad arbenigol ychwanegol a weithredwyd â llaw.
Profwyd ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael ar landregistry.data.gov.uk
Paratowyd y datganiad hwn yn Awst 2025.