Mynegai Prisiau Tai y DU

Defnyddiwch y teclyn chwilio i weld tueddiadau prisiau tai yn y DU:

chwilio mynegai prisiau tai y DU

Mynegai cyfredol

O Fai 2026, £271,295 yw pris tŷ cyfartalog yn y DU, ac mae’r mynegai yn sefyll ar 104.0. Mae prisiau eiddo wedi codi gan 0.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ac wedi codi gan 2.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Am y Mynegai Prisiau Tai

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data gwerthiannau tai o Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac fe’i cyfrifir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r mynegai’n defnyddio dull ystadegol, a elwir yn fodel atchweliad hedonig, ar gyfer y ffynonellau data amrywiol ar brisiau a nodweddion eiddo i gynhyrchu amcangyfrifon o’r newid yn y prisiau tai ar gyfer pob cyfnod.

Adolygwyd yr ystadegau swyddogol achrededig hyn yn annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym Medi 2018. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a dylid eu labelu’n ‘ystadegau swyddogol achrededig’.

Cyhoeddir y mynegai bob mis, gyda ffigurau Gogledd Iwerddon yn cael eu diweddaru bob chwarter.

Cynghorir y gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anwadalrwydd yn yr amcangyfrifon ar y lefelau hyn. Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol. Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen cyfarwyddyd am ein data a’u hansawdd.

Mae data hanesyddol o fewn y teclyn hwn yn ddata deilliedig. O dan Fynegai Prisiau Tai y DU, mae data ar gael o 1995 ar gyfer Cymru a Lloegr, o 2004 ar gyfer yr Alban ac o 2005 ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae ôl-gyfres hirach wedi deillio trwy ddefnyddio llwybr hanesyddol Mynegai Prisiau Tai y Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio cyfres sy’n mynd yn ôl i 1968.

Cymorth a chefnogaeth

Ceir canllaw defnyddwyr ar gyfer y gwasanaeth hwn, a gallwch ddarllen rhagor am ddata cysylltiedig â Mynegai Prisiau Tai y DU. I gael rhagor o gymorth, anfonwch ebost atom.

Lawrlwytho Data’r Mynegai Prisiau Tai

Gan ddefnyddio’r teclyn chwilio gallwch nodi is-set benodol o ddata mynegai prisiau tai sydd o ddiddordeb ichi, ac yna ei lawrlwytho. Os hoffech lawrlwytho holl ddata Mynegai Prisiau Tai y DU ar ffurf wedi ei gwahanu ag atalnod, gweler tudalen adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Data Cysylltiedig Mynegai Prisiau Tai y DU

Rydym yn cyhoeddi’r data hwn ar ffurf data cysylltiedig, gan anelu at radd pum seren.

I roi cynnig ar eich ymholiadau eich hunain yn erbyn ein cyhoeddiadau data cysylltiedig, defnyddiwch y ffurflen ymholiad SPARQL. Mae rhai ymholiadau enghreifftiol wedi eu cynnwys gyda’r ffurflen, a gallwch gynhyrchu allbwn mewn amrywiaeth o ffurfiau gwahanol.

Os hoffech weld, a rhedeg, yr ymholiad SPARQL a ddefnyddir i gynhyrchu’r adroddiad a grëwyd yn y teclyn chwilio, defnyddiwch y botwm dangos ymholiad SPARQL.

Newidiadau i wasanaethau a data

I gael manylion am newidiadau i'r gwasanaeth neu newidiadau i'r data, gweler y log newid.

Pan fydd ffiniau awdurdodau lleol yn newid, yn uno, yn rhannu neu’n cael eu hailenwi, caiff cyfres Mynegai Prisiau Tai y DU ei diweddaru i adlewyrchu’r ddaearyddiaeth newydd. Caiff data hanesyddol ei ddiwygio fel bod ffigurau’n cael eu cyflwyno ar sail awdurdod lleol gyson dros amser.

Mae hyn yn golygu bod:

  • Data cyfres amser yn parhau’n gymaradwy ar draws blynyddoedd.
  • Defnyddir yr un ddaearyddiaeth awdurdod lleol trwy’r gyfres gyhoeddedig.
  • Nid oes angen i ddefnyddwyr addasu â llaw ar gyfer newidiadau ffiniau hanesyddol.

Os caiff awdurdod lleol ei greu neu ei ad-drefnu, bydd data cyhoeddedig Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu’r strwythur wedi ei ddiweddaru hwnnw ar draws y gyfres amser lawn.

Mae hyn yn bwysig oherwydd os ydych yn dadansoddi tueddiadau hirdymor ar gyfer awdurdod lleol, mae set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU yn darparu cyfres ystadegol gyson sy’n cyfateb â ffiniau presennol awdurdodau lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau ffiniau hanesyddol, gweler y tudalennau Ein daearyddiaeth newidiol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cysylltau i ddata arall

Darperir cysylltau i ffynonellau eraill o ddata agored o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (ONS) a’r Drwydded Data Agored (OS). Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig.

Manylion cysylltu

Problem neu awgrym? Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth hwn.