Data Agored

Mae Cofrestrfa Tir EM yn cyhoeddi’r setiau data cyhoeddus canlynol fel rhan o’n hymrwymiad i flaenoriaethau’r Llywodraeth i dwf economaidd a thryloywder data:

Darperir y setiau data ar ffurf gwerthoedd wedi’u gwahanu ag atalnod a data cysylltiedig gyda Data Pris a Dalwyd ar gael ar ffurf testun hefyd. Gellir lawrlwytho’r setiau data hyn yn llawn trwy fynd i’n Data Cyhoeddus.

Adroddiadau pwrpasol

Gall cwsmeriaid Pris a Dalwyd a’r Mynegai Prisiau Tai nad ydynt am gael y set ddata lawn greu adroddiadau pwrpasol gyda’r teclynnau canlynol:

Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU

Defnyddiwch declyn chwilio mynegai prisiau tai y DU i ganfod is-set benodol o’r data mynegai mae gennych ddiddordeb ynddo, ac yna ei lawrlwytho. Gellir dadansoddi adroddiadau yn ôl gwledydd, rhanbarthau, siroedd neu awdurdodau lleol dros gyfnod penodol o amser sy’n dyddio’n ôl i Ionawr 1995. Gellir eu teilwra ymhellach i amrywiaeth o ddewisiadau adrodd gan gynnwys dangosyddion, categorïau eiddo neu nifer gwerthiannau.

Gwybodaeth bellach: darllenwch ragor am am Chwilio mynegai prisiau tai y DU, neu am ddata mynegai prisiau tai y DU.

Lluniwr Adroddiad Data Pris a Dalwyd

Defnyddiwch Adroddiadau Data Pris a Dalwyd i greu adroddiadau pwrpasol gan ddefnyddio ein Data Pris a Dalwyd. Gellir seilio adroddiadau ar leoliad, daliadaeth, pris a dalwyd neu fath o eiddo dros gyfnod penodol.

Mae ein Data Pris a Dalwyd yn olrhain gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir inni i’w cofrestru. Mae’r set ddata’n ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am brisiau tai ac mae’n cynnwys dros 24 miliwn o gofnodion yn dyddio’n ôl i Ionawr 1995. I gael rhagor o wybodaeth am y set ddata hon a’r hyn mae’n ei gynnwys a’r hyn nad yw’n ei chynnwys, darllenwch Data am y Pris a Dalwyd.

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein data cyhoeddus mor gywir â phosibl, ond ni allwn warantu na fydd yn cynnwys gwallau neu’n addas at eich dibenion neu eich defnydd. Mae adroddiadau’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ar yr adeg y cofrestrwyd y trafodiad eiddo gyda ni ac ni fydd o reidrwydd yn gyfredol o ran y wybodaeth fwyaf diweddar. Darllenwch pa mor gywir yw’r data? am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth bellach

Lluniwr Adroddiad Safonol

Darperir y Lluniwr Adroddiad Safonol gan ddefnyddio’n Data Pris a Dalwyd. Defnyddiwch y teclyn hwn i greu adroddiadau pwrpasol sy’n ddata prisiau cyfanredol. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich caniatáu i ffurfweddu adroddiad ar gyfer gwahanol ardaloedd daearyddol yng Nghymru a Lloegr, o lefel sir i sectorau cod post dros gyfnod penodol o amser.

Data cysylltiedig

Rydym yn cyhoeddi’r data hwn ar ffurf data cysylltiedig hefyd, gan anelu at sgôr pum seren

Os hoffech roi cynnig ar eich ymholiadau SPARQL eich hunan yn erbyn ein cyhoeddiadau data cysylltiedig, defnyddiwch y ffurflen SPARQL hon.

Os hoffech weld yr ymholiad SPARQL a ddefnyddir i greu’r adroddiadau yn y teclynnau adrodd Mynegai Prisiau Tai a Data Pris a Dalwyd a ddisgrifir uchod, gallwch wneud hyn trwy ddewis y camau ‘view SPARQL query’ o olwg ‘download data’ ym mhob teclyn chwilio. Mae modd diwygio ac ail-redeg yr ymholiad SPARQL yn ôl yr angen hyd yn oed.

Y setiau data cysylltiedig:

Data pris a dalwyd
set ddata cysylltiedig 4★ sy’n cynnwys dros 400 miliwn o driawdau. Darllenwch y diffiniadau data ar gyfer y set ddata Data Trafodion.
Data Trafodiad
set ddata cysylltiedig 4★ Darllenwch y diffiniadau data ar gyfer set ddata Data Trafodiad.
Mynegai Prisiau Tai Y DU
set ddata cysylltiedig 5★ Darllenwch y diffiniadau data ar gyfer set ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

 phwy i gysylltu

Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad at y data, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu.

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â’r Mynegai Prisiau Tai, gweler Am y Mynegai Prisiau Tai – Cysylltu.

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â data trafodiad, anfonwch ebost at DRO@landregistry.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â Data Pris a Dalwyd, cysylltwch â data.services@mail.landregistry.gov.uk.

Problem neu awgrym? Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth hwn.