Hysbysiad preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gawn oddi wrthych pan fyddwch yn defnyddio’n gwasanaeth.

Cwcis

Ffeiliau bach sy’n cael eu harbed ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwcis. Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i’r wefan weithio ac i ddeall sut rydych yn defnyddio’n gwasanaeth, er enghraifft y tudalennau rydych yn ymweld â nhw.

Cwcis hanfodol

Mae cwcis hanfodol yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel wrth ichi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Nid oes angen eich caniatâd arnom i’w defnyddio.

  • Dynodydd sesiwn unigryw

Cwcis dadansoddol (dewisol)

Gyda’ch caniatâd, rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data am sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i’n helpu i wella’r gwasanaeth ar sail anghenion defnyddwyr.

Ni chaniateir i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddol gydag unrhyw un.

Mae Google Analytics yn gosod cwcis sy’n storio gwybodaeth ddienw am y canlynol:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â nhw
  • pa mor hir rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
  • sut y cyrhaeddwyd y gwasanaeth
  • ar beth rydych yn clicio wrth ymweld â’r gwasanaeth

Cwcis sy’n cofio’ch gosodiadau

Mae’r cwcis hyn yn gwneud pethau fel cofio eich ffafriaeth a’r dewisiadau a wnewch i bersonoli’ch profiad o ddefnyddio’r wefan.

Problem neu awgrym? Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth hwn.