Mynegai Prisiau Tai y DU

Defnyddiwch y teclyn chwilio i weld tueddiadau prisiau tai yn y DU:

chwilio mynegai prisiau tai y DU

Mynegai cyfredol

O Fehefin 2024, £287,924 yw pris tŷ cyfartalog yn y DU, ac mae’r mynegai yn sefyll ar 151.0. Mae prisiau eiddo wedi codi gan 0.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ac wedi codi gan 2.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Am y Mynegai Prisiau Tai

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data gwerthiannau tai o Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac fe’i cyfrifir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r mynegai’n defnyddio dull ystadegol, a elwir yn fodel atchweliad hedonig, ar gyfer y ffynonellau data amrywiol ar brisiau a nodweddion eiddo i gynhyrchu amcangyfrifon o’r newid yn y prisiau tai ar gyfer pob cyfnod.

Cyhoeddir y mynegai bob mis, gyda ffigurau Gogledd Iwerddon yn cael eu diweddaru bob chwarter.

Cynghorir y gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anwadalrwydd yn yr amcangyfrifon ar y lefelau hyn. Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol. Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen cyfarwyddyd am ein data a’u hansawdd.

Mae data hanesyddol o fewn y teclyn hwn yn ddata deilliedig. O dan Fynegai Prisiau Tai y DU, mae data ar gael o 1995 ar gyfer Cymru a Lloegr, o 2004 ar gyfer yr Alban ac o 2005 ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae ôl-gyfres hirach wedi deillio trwy ddefnyddio llwybr hanesyddol Mynegai Prisiau Tai y Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio cyfres sy’n mynd yn ôl i 1968.

Cymorth a chefnogaeth

Ceir canllaw defnyddwyr ar gyfer y gwasanaeth hwn, a gallwch ddarllen rhagor am ddata cysylltiedig â Mynegai Prisiau Tai y DU. I gael rhagor o gymorth, anfonwch ebost atom.

Lawrlwytho Data’r Mynegai Prisiau Tai

Gan ddefnyddio’r teclyn chwilio gallwch nodi is-set benodol o ddata mynegai prisiau tai sydd o ddiddordeb ichi, ac yna ei lawrlwytho. Os hoffech lawrlwytho holl ddata Mynegai Prisiau Tai y DU ar ffurf wedi ei gwahanu ag atalnod, gweler tudalen adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Data Cysylltiedig Mynegai Prisiau Tai y DU

Rydym yn cyhoeddi’r data hwn ar ffurf data cysylltiedig, gan anelu at radd pum seren.

I roi cynnig ar eich ymholiadau eich hunain yn erbyn ein cyhoeddiadau data cysylltiedig, defnyddiwch y ffurflen ymholiad SPARQL. Mae rhai ymholiadau enghreifftiol wedi eu cynnwys gyda’r ffurflen, a gallwch gynhyrchu allbwn mewn amrywiaeth o ffurfiau gwahanol.

Os hoffech weld, a rhedeg, yr ymholiad SPARQL a ddefnyddir i gynhyrchu’r adroddiad a grëwyd yn y teclyn chwilio, defnyddiwch y botwm dangos ymholiad SPARQL.

Newidiadau i wasanaethau a data

I gael manylion am newidiadau i'r gwasanaeth neu newidiadau i'r data, gweler y log newid.

Gall newidiadau gynnwys gweinyddiaeth y Llywodraeth a newidiadau daearyddiaeth llywodraeth leol.

Darperir cysylltau i ffynonellau eraill o ddata agored o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol) a’r Drwydded Data Agored (yr Arolwg Ordnans). Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig.

Manylion cysylltu

Ebost data.services@mail.landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 0478
Ffurflen gysylltu

Problem neu awgrym? Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth hwn.