Datganiad hygyrchedd ar gyfer cymwysiadau data agored: archwiliwr Data Pris a Dalwyd, adeiladwr adroddiadau safonol a Mynegai Prisiau Tai y DU

Cofrestrfa Tir EM sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 200% heb i’r testun lithro oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn credu bod y rhan fwyaf o’r wefan hon yn cydymffurfio â gofynion safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1. Ni ddylai’r archwiliwr Data Pris a Dalwyd, yr adeiladwr adroddiadau safonol, a Mynegai Prisiau Tai y DU achosi unrhyw rwystrau i ddefnyddwyr sydd ag anableddau. Os ydych yn cael problemau yn cyrchu’r adrannau hyn, rhowch wybod inni.

Rydym yn gwybod nad yw’r SPARQL Qonsole ar y wefan hon yn hollol hygyrch. Yn arbennig, nodwn y problemau canlynol:

  • Nid oes cymhareb cyferbyniad ddigonol gan liwiau cefndir a blaendir
    Mae hyn yn methu WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (Lefel AA)
  • Nid oes gan rai meysydd mewnbwn labeli cysylltiedig mewn HTML
    Mae hyn yn methu WCAG 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A)
  • Nid yw rhestrau yn cynnwys elfennau <li> yn unig ac elfennau cynnal sgript (<sgript> a <thempled>)
    Mae hyn yn methu WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Ni all defnyddwyr fynd ymhellach na’r ardal prif destun trwy ddefnyddio’r allwedd tab yn unig
    Mae hyn yn methu WCAG 2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd

Rhyngwyneb technegol sy’n cefnogi datblygiad ymholiad gweledol yw’r SPARQL Qonsole. Rydym yn gweithio ar ddiweddariad i Qonsole SPARQL i wella hygyrchedd yn gyffredinol. Disgwyliwn i’r diweddariad hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2023.

Yr hyn i’w wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch ar ffurf wahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille, anfonwch ebost at data.services@mail.landregistry.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 5 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid:

  • trwy’r ffôn – 0300 006 0422
  • trwy’r post – HM Land Registry Citizen Centre, PO Box 74, Gloucester, GL14 9BB
  • ar-lein

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl fyddar, sydd â nam ar y clyw neu sydd â nam ar y lleferydd.

Mae dolenni sain gan ein swyddfeydd, neu os ydych yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu i ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain fod yn bresennol.

Darllen am sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cofrestrfa Tir EM wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.

Sut y profwyd y wefan hon

Profwyd y wefan hon ar 21 Medi 2020. Cynhaliwyd profion gan werthwr allanol, gan ddefnyddio cyfuniad o offer profi awtomataidd a sgriptiau prawf a weithredwyd â llaw.

Profwyd ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael ar landregistry.data.gov.uk

Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Hydref 2022.

Problem neu awgrym? Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth hwn.